Rhannu + English

Dewch i ymweld ag Aberteifi a Bae Hyfryd Ceredigion

  Visit Cardigan        


Tirwedd Ddaearegol Aberteifi

Poppit Mae bryniau, dyffrynnoedd ac arfordir ardal Aberteifi yn arddangos amrywiaeth helaeth o nodweddion ffisegol sy’n datgelu ei hanes daearegol cymhleth.

Photo 1 - Click for more info Cerrig llaid, gafodd eu dyddodi mewn basn dwfn yn eigion y môr tua 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yw’r rhan fwyaf o greigiau’r ardal.  Mae cyswllt lleol rhwng y cerrig llaid â haenau o dywodfaen caled (tyrbiditau); yn Nhraeth Poppit (Cyf.Grid: 150489) mae’r haenau hyn hyd at fetr neu ddau o drwch, ond mewn mannau eraill gallant fod yn ddim mwy nag ychydig filimetrau o drwch.  Cafodd y creigiau hyn eu dyddodi fel mwd a thywod ar lawr y cefnfor ond fe’u claddwyd yn ddwfn dros amser a thua 140 miliwn o flynyddoedd yn ôl cawsant eu gwasgu a’u plygu gan symudiadau sylweddol yn y ddaear.  Trodd y cerrig llaid yn llechfeini yn sgil y digwyddiad hwn.


Y lle gorau i weld y creigiau plyg hyn yw ar hyd yr arfordir yn Ceibwr (109461) ac yn Nhraeth Poppit (147490).

Photo 2 - Click for more info
Photo 3 - Click for more info

Yn sgil y plygu hwn, chwistrellodd hylifau drwy’r creigiau ac mae’r llwybrau a ddilynwyd gan yr hylifau hyn bellach wedi eu mewnlenwi’n lleol gan rwydwaith o wythiennau cwarts gwyn.

Photo 4 - Click for more info
Photo 5 - Click for more info

Prin iawn yw’r ffosilau sydd i’w gweld yn y creigiau oherwydd bod y gwaddodion wedi’u dyddodi mewn dŵr dwfn.   Mae’r ychydig graptolitau (organebau rhydd-nofio sy’n edrych fel coesau pryfyn ac sydd tua’r un maint â’r rheiny) a ddarganfuwyd yn dangos bod y creigiau yn perthyn i’r System Ordoficaidd.  Yn y 19eg ganrif, roedd nifer o chwareli llechi yng ngheunant Afon Teifi, rhwng y Ganolfan Bywyd Gwyllt (191449) a Chilgerran (206430).  Câi’r llechfaen ei thorri’n slabiau, yn hytrach nag yn llechi toi, ac roedd y rhain yn cael eu defnyddio i wneud cafnau, lloriau a llefydd tân.  Dympiwyd rhywfaint o’r gwastraff o’r gwaith llechi yn yr afon a newidiodd hyn batrwm ei llif gan arwain at lifogydd mawr i fyny’r afon a siltio i lawr yr afon.

Ni cheir unrhyw dystiolaeth o greigiau sy’n iau na’r cyfnod Ordoficaidd yn ardal Aberteifi, er bod cryn dipyn o Fae Ceredigion wedi ei fewnlenwi gan olyniaeth drwchus o greigiau Jwrasig, tebyg i’r rhai yn ne Lloegr.  Mae’r creigiau hyn yn cyrraedd bron hyd at wely’r môr o fewn 5 cilometr i’r gogledd orllewin o Benrhyn Cemaes (131502).

Adnewidiwyd tirwedd ardal Aberteifi gan Oes yr Iâ.  Rhyw ddau gan mil o flynyddoedd yn ôl, gorchuddiwyd yr ardal gan y llen cyntaf o iâ.  Dinistriwyd y rhan fwyaf o’r dystiolaeth dros y digwyddiad hwn gan y llen iâ diwethaf i ymestyn dros yr ardal a gyrhaeddodd ei stent mwyaf rhyw 18 000 o flynyddoedd yn ôl.  Ar y tir, roedd ffin ddeheuol y llen iâ hwn yn gorwedd i’r de o Aberteifi, yn agos i gopa Mynyddoedd y Preselau, ond roedd yn llifo ymhellach i’r de yn Sianel San Siôr.  Crëwyd nifer o arweddion gan y prosesau oedd yn gysylltiedig â’r llen iâ:

Photo 6 - Click for more info
Photo 7 - Click for more info

Photo 8 - Click for more info

• Cyn Oes yr Iâ, llifai Afon Teifi ar hyd dyffryn llydan, dolennog, tebyg i’r hyn sydd i’w weld heddiw rhwng Llechryd a Chenarth.

Gynt, pan oedd iâ yn gorchuddio’r ardal, torrodd yr afon ar draws rhai o’r dolennau gan endorri dyffryn cul, tebyg i geunant, fel sydd i’w weld heddiw rhwng Llechryd a’r Ganolfan Bywyd Gwyllt.

Bellach, mae’r hen ddolennau a dorrwyd i ffwrdd wedi eu mewnlenwi ond gellir eu gweld (i’r de o’r Ganolfan Bywyd Gwyllt) drwy edrych yn ofalus ar fapiau ac ar y dirwedd.


Photo 9 - Click for more info
Photo 10 - Click for more info

Photo 11 - Click for more info
Photo 12 - Click for more info

Photo 13 - Click for more info•Cyfordraeth ychydig fetrau uwchlaw’r marc penllanw i’r gorllewin o Draeth Poppit (147489).  Crëwyd y traeth hwn gan arwaith y tonnau tua 125 000 o flynyddoedd yn ôl ac mae wedi’i orchuddio gan glogfeini llyfngrwn gafodd eu herydu gan y tonnau ac sydd, yn eu tro, wedi’u gorchuddio gan glog-glai cyfoethog, gludiog a ddyddodwyd yn ystod yr oes iâ ddiwethaf.


Photo 14 - Click for more info
Photo 15 - Click for more info

Mae’r clai hwn, a ddyddodwyd rhwng tua 18 000 a 15 000 o flynyddoedd yn ôl, yn cynnwys llawer o glogfeini a charegos o Ogledd Cymru a de orllewin yr Alban (meini crwydr rhewlifol) gafodd eu cludo tua’r de yn yr iâ.

Photo 16 - Click for more info
Photo 17 - Click for more info

Photo 18 - Click for more info• Y twyni tywod helaeth sy’n ffurfio Banc-y-Warren (204475) a’r chwareli i’r gogledd.  Cafodd y rhain eu dyddodi gan afon oedd yn llifo allan o’r llen iâ diwethaf wrth i hwnnw doddi.  Mae lleoliad presennol y dyddodion hyn yn dangos bod rhaid bod y llen iâ hwn wedi bod yn gannoedd o fetrau o drwch a’i fod yn ymestyn ar draws y dirwedd gyfan.  Mae dyddodion tebyg i’w gweld yn Trefigin (132434).

• Dyffrynnoedd lleol tebyg i geunant (Cwm Degwel, Llandudoch – 162453) a sianelau a endorrwyd gan ddŵr tawdd yn llifo islaw’r llen iâ.

• Unwaith yr enciliodd y llen iâ, roedd y dirwedd ddiffrwyth yn agored i wyntoedd cryfion a chwythwyd tywod i gopa Towyn Warren (168 490) yn Gwbert, i’r de o Glwb Golff Aberteifi

Photo 19 - Click for more infoMae’r dirwedd yn yr aber yn dal i newid.  Mae’r tafod (spit) ym Mhen yr Ergyd (160486) yn ymledu gan achosi erydiad ar lan de orllewinol yr afon, ac mae’r twyni tywod yn ardal orllewinol Poppit wedi ymledu cryn dipyn yn ystod y ddau ddegawd diwetha’. 

Mae gwybodaeth fwy penodol ar gael oddi wrth The British Geological Survey 1:50 000 Sheet 193 Cardigan and Dinas Island: Solid and Drift Geology Map, sydd ar gael o Map Sales, BGS, Keyworth Nottingham. www.bgs.ac.uk.

Cliciwch yma os hoffech fanylion am wylio adar yn ardal Abertei

Mae Llwybr Afon Teifi yn ffordd ardderchog o ddarganfod bywyd gwyllt Aberteifi

Darllenwch am Fae Ceredigion Ardal Gadwraeth Arbennig