Rhannu + English

Dewch i ymweld ag Aberteifi a Bae Hyfryd Ceredigion

dolphins in Cardigan BayCardigan Festival of Walking


Hanes Aberteifi Gorllewin Cymru

Porthladd Aberteifi | Neuadd y Dref | Castell Aberteifi | Castell Cilgerran


Porthladd Aberteifi

Drawing © Hanes Aberteifi

Pan sefydlwyd tref Aberteifi yn 1110, daeth yn ganolfan fasnachol bwysig. Byddai rethyn gwlân yn cael ei allforio i Arras yn Ffrainc i'w ddefnyddio i wehyddu tapestrïau a châi nwyddau fel ŷd a chalchfaen eu mewnforio. Mae cofnodion am gyflenwadau gwin ar gael mor gynnar â'r 14eg Ganrif.

Erbyn Oes Elizabeth, roedd Aberteifi wedi tyfu yn un o'r porthladdoedd pwysicaf yng Nghymru, yn ail yn unig i Aberdaugleddau, a'i awdurdod yn ymestyn dros ardal helaeth, o Abergwaun i Aberaeron.
Yn ystod y ganrif ddilynol, dechreuodd y diwydiant adeiladu llongau ennill ei blwyf a thyfodd porthladd Aberteifi yn fwy fyth o ran maint, a gwelwyd nwyddau, yn amrywio o halen i eirin sych ac o ŷd i dar, yn cael eu trin a'u trafod. Adeiladwyd tollty yn Stryd y Santes Fair er mwyn ymdopi â'r fasnach gynyddol ac mae'r adeilad hwnnw yn dal yno heddiw.

Erbyn dechrau'r 1800au, roedd dros 300 o longau wedi'u cofrestru ym mhorthladd Aberteifi a thros 1,000 o ddynion yn cael eu cyflogi yma. Byrlymai'r porthladd gan fwstwr gwneuthurwyr rhaffau, gwaith nwy, ffowndrïau, odynnau calch, ierdydd coed, melinau llifio, gweithfeydd briciau, adeiladwyr llongau, gefeiliau, warysau, tanerdai, bragdai a llawer iawn mwy. Byddai teithwyr yn glanio ac yn ymadael oddi ar Gei'r Teifi. Yn wir, daeth Aberteifi yn un o borthladdoedd mwyaf y wlad ar gyfer allfudo trawsatlantig, a byddai'n anfon llongau fel yr Active a'r Albion i New Brunswick yng ghanada
a'r Triton i Efrog Newydd. Hwyliai llongau nwyddau o bedwar ban byd i mewn i Gei'r Cambria, tra roedd Glanfa Lloyd yn ymdrin â glo a masnach arfordirol leol gan mwyaf. Câi coed o'r Baltig ac o Ogledd America eu mewnforio i'r Cei Masnachol [Mercantile Quay], ac roedd llongau oedd yn cario calch ar gyfer adeiladu ac amaethyddiaeth yn glanio yn y Morglawdd Masnachol [Mercantile
Breakwater]. Daeth cysylltiadau masnach rhyngwladol Aberteifi a'i lleoliad delfrydol â llewyrch heb ei debyg o'r blaen i'r ardal, ac yn hyn o beth roedd yn curo holl borthladdoedd Prydain, ac eithrio Bryste, Lerpwl a Llundain. Roedd y diwydiant adeiladu llongau wedi'i ganoli yn Netpool (sydd bellach yn barc) ac ymhellach i lawr yr afon yn Llandudoch. Adeiladwyd cannoedd o longau ar Afon Teifi – gyda'r rhai o'r rhain yn pwyso hyd at 400 tunnell fetrig.

Pan ddechreuodd aber y Teifi lanw â llaid gan greu trafferthion mynediad i longau mwy o faint, a gyda dyfodiad y rheilffordd i Aberteifi yn 1886, dechreuodd y porthladd ddirywio a chyn pen 20 mlynedd yn unig, doedd dim o werth ar ôl o'r fasnach a fu'n fwy ei maint yn y porthladd hwn nag yn
y rhan fwyaf o borthladdoedd Prydain ar un adeg. Erbyn dechrau'r 20fed ganrif, roedd Netpool, lle'r adeiladwyd cannodd o longau, eisoes wedi'i droi'n llecyn hamdden.

Heddiw, mae'r ceiau sy'n cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd, yn cynnig lle i eistedd a llecyn perfformio, pontŵn ar gyfer teithiau cychod, a llwybrau cerdded dymunol ar hyd glan yr afon. Defnyddir yr afon yn rheolaidd ar gyfer gweithgareddau hamdden fel pysgota, caiacio a hwylio.

Mae cysylltiad hir Aberteifi gyda'r môr a'r afon yn mynd i gael ei ddogfennu mewn prosiect treftadaeth newydd Dros
y Tonnau

Neuadd y Dref

Comisiynwyd Neuadd y Dref a Neuadd Farchnad Aberteifi ym 1856. Hwn oedd yr adeilad dinesig cyntaf ym Mhrydain yn yr arddull 'Gothig modern' - arddull a hyrwyddwyd gan John Ruskin a hyd heddiw mae arbenigwyr ym maes pensaernïaeth Oes Fictoria yn dal i'w nodi fel eithriad anghyffredin yng nghyd-destun adeiladau cyhoeddus Gothig. Ceir dylanwad Arabaidd yn yr addurn bwa sydd i'w weld yn y naill adeilad a'r llall. Denodd y cynllun sylw cenedlaethol, ac ymddangosodd darlun eglurhaol yn The Building News ym 1859. Defnyddiwyd llechi o gloddfa nid nepell i ffwrdd yng Nghilgerran a charreg Caerfaddon (Bathstone) i lunio'r adeiladau.

Ym 1855, dewiswyd safle a adwaenid fel 'Free School Bank' – sef llethr ychydig y tu hwnt i safle Porth Gogleddol y dref ganoloesol - ar gyfer yr adeiladau cyhoeddus newydd a'r marchnadoedd. Bryd hynny, roedd yr ysgol ramadeg a lle cadw coets i'w gweld ar y safle, gyda thir agored y tu cefn iddynt. Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Maer, R D Jenkins a mawr fu'r dathlu. Seiniwyd clychau Eglwys y Santes Fair, taniwyd tair rownd o'r canon, rhannwyd casgen o porter ymhlith y gweithwyr, addurnwyd y strydoedd a chynhaliwyd gorymdaith o amgylch y dref.

Roedd marchnad gig, cyfnewidfa ŷd a storfa, ysgol ramadeg, ystafell gyfarfod gymunedol, llyfrgell, ystafell gyfarfod y cyngor, ystafell ddarllen a neuadd gyhoeddus i'w gweld ar y safle – llawer iawn mwy na'r 'neuadd uwchben marchnad' arferol oedd yn gyffredin bryd hynny.

Y Canon
Cafodd y canon Rwsiaidd, a gyflwynwyd i'r dref ym 1857 er cof am aberth milwyr Aberteifi yn Rhyfel y Crimea, ei osod yn ei le o'r diwedd o flaen Neuadd y Dref ym 1871. Defnyddiwyd y gwn ym Mrwydr y 'Light Brigade', yn ystod cyrch enwog Balaclava.

Tŵr y Cloc
Pan urddwyd David Davies, masnachwr gwin a gwirodydd, yn faer ym 1890, cynigiodd gloc i'r dref - cloc, a adwaenir heddiw fel y ''Whiskey Clock', ac fe''i gosodwyd dros fynedfa'r rhaniad rhwng yr ysgol a'r farchnad ŷd. Pedair troedfedd o led yw maint y pedwar wyneb cloc haearn ac mae bysedd copr a gwydr didraidd gan bob un ohonynt. Golau nwy oedd yn eu goleuo ar y cychwyn. Ar y copa gwelir ceiliog gwynt rhwyllog gyda'r llong a'r castell sy'n rhan o selnod y dref.

Castell Aberteifi

Adeiladwyd castell cyntaf Aberteifi 1 cilomedr i lawr yr afon o'i safle presennol yn y dref. Castell pren oedd hwn a godwyd gan y Normaniaid ar safle anheddiad cynharach o gyfnod Oes yr Haearn. Ystyrid bod y safle presennol yn fwy addas ac ym 1100 adeiladwyd ail gastell pren yma gan Gilbert de
Clare.

Ym 1136, gorymdeithiodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd, tywysog Deheubarth, tua'r de a gorchfygodd y Normaniaid ym mrwydr Crug Mawr (rhyw ddwy filltir i'r gogledd o'r dref). Cipiodd Gastell Aberteifi a dechrau ei ailgodi fel castell maen. I ddathlu cwblhau'r Castell, cynhaliodd yr Arglwydd Rhys yr hyn rydyn ni heddiw yn ei adnabod fel yr Eisteddfod Genedlaethol Gyntaf gyda beirdd a cherddorion yn cael eu gwahodd i ddod ynghyd i gystadlu.

Yn sgil marwolaeth Rhys ym 1197, cafwyd cyfnod arall o wrthdaro. Bu'n rhaid i'w feibion, Maelgwyn a Gruffydd, frwydro i gadw eu hetifeddiaeth ac o ganlyniad gwerthwyd y Castell i'r Brenin John o Loegr.

Fodd bynnag, yng nghanol y 13eg Ganrif, daeth y Castell unwaith eto yn eiddo i'r Normaniaid. Adeiladwyd dau dŵr, gorthwr newydd a mur y dref, a'r cyfan er mwyn creu cadarnle, ac mae adfeilion y rhain i'w gweld hyd heddiw. Erbyn diwedd y 13eg ganrif, hawliwyd y castell gan y Brenin Edward a daeth unwaith eto dan reolaeth y Saeson.

Yn ystod y Rhyfel Cartref yn Lloegr, dinistriwyd y rhan helaeth o'r castell gan Bengryniaid Oliver Cromwell, ac yn ddiweddarach, defnyddiwyd rhannau o'r adeilad fel canolfan weinyddol, carchar a llain gyhoeddus ac iddi lawnt fowlio. Ar ddechrau'r 1800au, adeiladwyd plasty preifat ar y tir a chychwynnodd y Castell ar gyfnod ychydig yn fwy heddychlon.

Nid yw Castell Aberteifi yn agored i'r cyhoedd ar hyn o bryd ond mae prosiect atgyweirio enfawr ar fin dechrau er mwyn sicrhau bod modd defnyddio'r lle unwaith eto.

Castell Cilgerran

Ceir cyfeiriad at Gilgerran wrth ei enw am y tro cyntaf ym 1164, pan gipiwyd y castell gan yr Arglwydd Rhys. Fe'i hadenillwyd gan William Marshal, Iarll Penfro, ym 1204, ond daeth i ddwylo'r Cymry unwaith eto yn ystod ymgyrchoedd Llywelyn Fawr ym 1215. Er hynny, wyth mlynedd yn ddiweddarach, daeth yr adeilad yn ôl i ddwylo mab William, sef William arall, ac ef, mae'n bur debyg, fu'n gyfrifol am adeiladu'r castell mawreddog o feini sydd i'w weld heddiw. Mae'n bosib iawn fod ffurf y castell presennol yn adlewyrchu ffurf y castell gwrthglawdd cynharach.

Yn yr 1370au, ofnid ymosodiad o du'r Ffrancod, a gorchmynnodd Edward III y dylid ail-atgyfnerthu castell Cilgerran oedd braidd yn adfeiliedig erbyn hyn. Yn ystod cyfnod y Tuduriaid, cyflwynodd Harri'r VII y castell i deulu'r Vaughaniaid, ac fe barhaodd y teulu hwnnw i fyw yno tan ddechrau'r 17eg ganrif, pan godwyd cartref newydd ganddynt gerllaw. Aeth y castell yn adfail, ond oherwydd ei leoliad darluniadwy, daeth yn ffefryn cynnar gan dwristiaid, ac roedd yr ymwelwyr hynny, o gyfnod y 18fed ganrif, yn gallu cyrraedd yno mewn cwch o Aberteifi.

Mae Castell Cilgerran yn agored i'r cyhoedd. Cliciwch yma i ddarllen hanes Castell Cilgerran www.cilgerran.info/history.asp

Cliciwch i ymweld www.cardigancastle.com

Cliciwch i ymweld www.neuaddydref-aberteifi.co.uk

Cliciwch i ymweldt www.cardigan-heritage.co.uk