Rhannu + English

Dewch i ymweld ag Aberteifi a Bae Hyfryd Ceredigion

hiking by the sea near Cardigancoastal walksCardigan Festival of Walking



Gŵyl Gerdded Aberteifi 2010

17 - 19 mis Medi

Heb os nac oni bai, mae tref Aberteifi a’r wlad o’i hamgylch yn baradwys i
gerddwyr. Mae rhaglen yr Ŵyl eleni yn cynnwys llu o deithiau cerdded newydd sy’n cwmpasu Aber godidog afon Teifi. Aber yr afon hon yw canolbwynt y tirweddau a’r morluniau ysblennydd cyfagos. Cafodd dyffryn yr afon ei ddynodi’n Ardal o Gadwraeth Arbennig tra bod Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion yn gorwedd tua’r môr.

Mae’r ardal wedi’i breintio â chyfoeth o atyniadau hanesyddol fel Castell
Aberteifi, lle cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf a Chastell Cilgerran.

Ceir detholiad o deithiau cerdded fydd yn apelio at bawb ac mae’r rhain yn
amrywio o deithiau ymdrechgar i deithiau cerdded mwy hamddenol ar gyfer y
teulu. Felly, ymunwch â ni a chewch fforio drwy harddwch Gorllewin Cymru .

Os hoffech fanylion pellach, cysylltwch â Menter Aberteifi ar 01239 615554, os gwelwch yn dda, neu anfonwch e-bost i info@menter-aberteifi.co.uk

Teithiau Cerdded Aberteifi Gwefan Gŵyl