Bae Ceredigion: Ardal Gadwraeth Arbennig
Bae Ceredigion – lle arbennig
Mae’r amrywiaeth nodedig o fywyd gwyllt a chynefinoedd ym Mae Ceredigion ac Afon Teifi yn eu gwneud yn amgylcheddau eithriadol a phwysig iawn yn rhyngwladol. O ganlyniad, cawsant eu dynodi yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.
Beth yw Ardal Gadwraeth Arbennig
(AGA)?
Mae AGA (SAC: Special Area
of Conservation) yn enw statudol Ewropeaidd
fydd yn gymorth i sicrhau bod yr ardal a’i bywyd gwyllt yn cael eu diogelu
a’u gwarchod er lles a mwynhad y cenedlaethau sydd i ddod.
Aruthrol
wyllt!
Er mai’r dolffiniaid trwynbwl efallai sy’n cael y sylw mwyaf, rhaid
i ni beidio anghofio am y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd cyfareddol sy’n
rhan o’r bywyd amrywiol hwn ym Mae Ceredigion. Mae cynefinoedd creigresi,
banciau tywod ac ogofeydd môr cyfareddol yn cynnal lliaws o rywogaethau,
o’r mwyaf cyntefig o blith yr holl fertebratau byw, e.e. lamprai’r
môr sy’n debyg i lysywen, i forloi llwyd gwryw nodedig yr Iwerydd
sy’n tyfu hyd at 2.7m o hyd (9 troedfedd). .
|
Dolffiniaid trwynbwl |
Morloi Llwyd yr Iwerydd |
Ogofâu Môr |
|
|
|
|
|
Lamprai’r Afon a’r Môr |
||
![]() |
![]() |
![]() |
Mewngofnodwch a dysgwch: Os hoffech fwy o fanylion am Fae Ceredigion AGA (SAC) ewch i www.cardiganbaysac.org.uk neu ffoniwch y Swyddog SAC ar 01545 572139
Canllaw i wylwyr!
Gellir gweld dolffiniaid trwynbwll, llamhidyddion harbwr, morloi llwyd yr Iwerydd yn ogystal â’r amrywiaeth helaeth o fywyd adar yr ardal i gyd yn agos at y lan. Craffwch yn ofalus er mwyn i chi gael gweld beth sydd i’w weld!
‘Map Mannau Allweddol’ - map o’r ardal + allwedd ar gyfer dolffiniaid/llamhidyddion, morloi ac adar y môr
I’w nodi fel mannau lle mae rhywogaethau i’w gweld:
Llwybr
yr arfordir :
Mae llwybrau arfordir Ceredigion a Sir Benfro yn dilyn copaon dramatig y clogwyni
ac yn cynnig cyfleoedd gwych i weld bywyd gwyllt lleol, boed hwnnw ar fôr
neu ar dir!
Teithiau cychod arbenigol:
Er mwyn peidio ag aflonyddu’n ddiangen ar ein bywyd gwyllt sensitif, awgrymwn
eich bod yn mynd ar wibdaith ar un o gychod teithio Ceredigion. Bydd y
capteiniaid gwybodus nid yn unig yn gallu ateb eich holl gwestiynau am yr anifeiliaid,
ond byddant hefyd yn dilyn y Cod Ymddygiad Morol ac yn lleihau effeithiau posib
ar yr amgylchedd lleol. Cysylltwch â’r Canolfannau Croeso lleol
am fwy o fanylion.
Adnabod y gwahaniaeth – dolffin neu lamhidydd
Mae Bae Ceredigion yn gartref i niferoedd mawr o ddolffiniaid trwynbwl yn ogystal â llamhidyddion harbwr. Maen nhw i’w gweld yn aml yn agos iawn at y lan, ond mae’n dipyn o her gwahaniaethu rhyngddyn nhw. Dyma ambell awgrym i’ch helpu chi!
Dolffiniaid
trwynbwl - cewri’r Bae
Nodweddion Arbennig:
Hyd: hyd at 4m (13 troedfedd)
Asgell Ddorsal: asgell ddorsal dal, siâp cryman
Lliw: Cefn llwyd tywyll, yn mynd yn oleuach o amgylch bol gwyn
Pen a Phig: pig fer ‘trwynbwl’, gyda blaen gwyn yn aml
ar y safn isaf
Ymddygiad: Chwareus, yn aml yn neidio’n glir o’r
dŵr ac yn nofio gydag ochr cwch
Ffeithiau eraill:
Atgenhedlu: Bydd dolffiniaid benyw yn rhoi genedigaeth i un llo bob
2-3 blynedd
Diet: ‘Dyw dolffiniaid ddim yn ffyslyd! Byddan nhw’n
bwyta amrywiaeth o bysgod, cramenogion ac ystifflogod (squid).
|
|

Llamhidydd gostyngedig yr harbwr
Nodweddion arbennig:
Hyd: hyd at 1.8m (5.9 troedfedd)
Asgell Ddorsal: Asgell fechan drionglog ar ei ganol
Lliw: cefn llwyd tywyll, gyda darn mwy gwelw ar ei ochrau
Pen a Phig: Pen pŵl byr heb dalcen na phig
Ymddygiad: O’r braidd y bydd yn neidio’n glir o’r
dŵr; yr olygfa arferol yw cipolwg ar ei gefn a’r asgell fechan
Ffeithiau Eraill:
Atgenhedlu: Bydd dolffiniaid benyw yn rhoi genedigaeth i un llo bob
blwyddyn
Diet: Fel dolffiniaid, bydd llamhidyddion yn bwyta beth sydd
ar gael, ac yn ysbeilio rhywogaethau tebyg.
|
|
Gwneud eich rhan chi dros y Bae!
Mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd i warchod ein hamgylchedd gwerthfawr. Mae chwarae eich rhan chi mor hawdd ag 1, 2, 3!
1. Mae’n hawdd iawn tarfu ar fywyd gwyllt y môr – p’un ai a ydych mewn cwch neu ar y traeth. Os gwelwch yn dda, dilynwch y Cod Ymddygiad Morol (ar gael mewn Canolfannau Croeso)
2. Mae sbwriel yn gallu niweidio bywyd gwyllt – ewch â’ch sbwriel adre’ gyda chi. Ailgylchwch yr hyn allwch chi.
3. Mae’n hawdd iawn gwneud niwed i’r bywyd mewn pyllau glan môr – mae’n dda cael edrych, ond gwell peidio â chyffwrdd.
Amser i wirfoddoli?
Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr i’n gwaith o gasglu
data gwerthfawr am ddolffiniaid, casglu sbwriel oddi ar draethau a chodi
ymwybyddiaeth am bwysigrwydd ein hamgylchfyd lleol. Rhowch ganiad
i ni os hoffech ymuno â’r tîm.
I’r rhai hynny ohonoch sy’n gallu sbario 2 awr yr wythnos yn yr haf, beth am gymryd rhan mewn sesiwn ‘gwylio dolffin’? Byddwch yn aelod o dîm sydd wedi’i neilltuo ar gyfer astudio’r berthynas rhwng traffig hwylio lleol a’r defnydd a wneir o safle’r dolffin trwynbwl astudiaeth sy’n ein cynorthwyo i wneud penderfyniadau ystyrlon ynglŷn â sut rydym yn rheoli gweithgareddau hamdden.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Liz Allan ar 01545 572142 neu ewch i
Cliciwch yma os hoffech fanylion am wylio adar yn ardal Abertei
Mae Llwybr Afon Teifi yn ffordd ardderchog o ddarganfod bywyd gwyllt Aberteifi
Darllenwch am Fae Ceredigion – Ardal Gadwraeth Arbennig






Adar
y Môr: Birds Rock, Ynys Aberteifi, Penrhyn
Cemaes)
©
WDCS
Menter Aberteifi