Traethau o gwmpas Aberteifi
Traeth Cwmtydu
Mae
Cwmtydu, a oedd unwaith yn gildraeth smyglwyr, yn gorwedd i’r de
orllewin o Gei Newydd. Traeth o raean bras yw hwn yn bennaf gydag
ardal dywod sy’n dod i’r golwg pan fydd y llanw ar drai. O
arfer gofal a pharch dyladwy, mae’r cildraeth yn gymharol ddiogel
ar gyfer gwahanol chwaraeon dŵr fel hwylfyrddio, syrffio, canŵio
a hwylio. Gellir mynd â chŵn ar hyd y traeth drwy’r
flwyddyn. Mae’r ardal yn enwog ymhlith y trigolion lleol fel
lle da i weld dolffiniaid a morloi: ond os na fydd golwg o’r
creaduriaid hyn, wnaiff yr haul yn machlud mo’ch siomi.
Traeth Llangrannog
Ceir
golygfa fythgofiawy ar hyd yr arfordir o Langrannog ac mae yma ddau draeth
tywodlyd – y prif draeth a thraeth cyfagos Cilborth [llun ar y brig]
sy’n gorwedd mewn cildraeth cuddiedig. Bu Llangrannog yn gyrchfan
poblogaidd i drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd ers cyn cof. Unwaith
y byddwch wedi croesi llwybrau dyffryn serthochrog Afon Hawen, mae’n
hawdd mynd yn eich blaen. Mae yma faes parcio ar lan y môr ac yn
ystod misoedd yr haf ceir cyfleusterau parcio ychwanegol - taith 5 munud
ar droed o’r prif draeth. Mae’r bae yn ddiogel ond rhaid bod
yn ofalus wrth ymwneud ag unrhyw weithgaredd glan môr.
Does dim hawl mynd â chŵn ar y traeth o fis Mai hyd fis Medi
ond gall gweddill y teulu fwynhau diwrnod i’r brenin yn Llangrannog
ac mae yma siop draeth a chaffi sy’n llawn dop o nwyddau.
Traeth Penbryn
Mae
angen cynllunio ymlaen llaw ar gyfer treulio diwrnod ym
Mhenbryn ond does dim amheuaeth ei fod yn werth yr ymdrech ychwanegol. Mae’r
maes parcio a’r cyfleusterau wedi’u lleoli tua 400
metr o’r traeth! Ond mae yna gylch troi a man gollwng teithwyr wrth
ymyl y traeth. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n
berchen ar Benbryn. Mae’r traeth, sydd bron filltir
o hyd, yn gwbl ddigyffwrdd ac mae’r tywod mân, euraid
a’r dŵr bas yn ei wneud yn lle perffaith i blant. Gallwch fynd
ati i archwilio dirgelion y pyllau trai neu mae yma sawl taith gerdded
hyfryd i’w cael – taith drwy goedwig o’r maes parcio
i’r traeth neu mae modd cerdded i Dresaith pan fydd
y llanw’n isel. Mae’r ardal gyfagos yn gyrchfan i adar
arfordirol ac adar coetir tra bod y môr yn gartref i Ddolffiniaid,
Llamhidyddion a Morloi.
Traeth Tresaith
Enwyd Tresaith ar ôl yr Afon Saith, sy’n rhaeadru dros y
clogwyni i draeth Tresaith. Mae’r rhaeadr yn nodwedd arfordirol
anarferol ac mae hynny’n unig yn sicrhau bod Tresaith
yn rhywle sy’n rhaid ymweld ag e – ond
mae llawer iawn mwy i’r bae tywodlyd, cysgodol bychan hwn. Mae’r traeth
glân, melyn yn peri bod y lle yn boblogaidd gyda
theuluoedd; mae’n gymharol ddiogel i nofio yma a gall y rhaid
sy’n dwli ar y dŵr fwynhau’r môr a bod yn dawel
eu meddwl bod Achubwr Bywyd ar ddyletswydd wrth law. Ar ôl
treulio diwrnod dioglyd ar y traeth, gall tafarn y ‘Ship’ baratoi
gwydraid o rywbeth oer ar eich cyfer wrth i chi wylio’r haul yn machlud
yn ei holl ogoniant dros Fae Ceredigion. Mae mwy o fanylion
ar gael yn ‘The Good Beach Guide’.
Traeth
Aberporth
Dyma fangre lle cewch chi’r gorau o ddau fyd – traeth sydd
wedi ennill gwobr baner las gyda safon y dŵr yn ardderchog,
a lle i’w fwynhau gyda’ch ci! Mae Maes Parcio,
toiledau a lluniaeth i gyd o fewn cyrraedd i’r traeth. Caiff
nofwyr a morwyr fel ei gilydd eu denu i Aberporth ac mae eu diogelwch
yn saff yn nwylo’r Achubwyr Bywyd. Dyma gyrchfan poblogaidd os
hoffech fynd ar wibdaith diwrnod. .
Traeth y Mwnt
Dyma
i chi dlws arall yng nghist drysorau arfordir Bae Ceredigion! Mae
pentir Mwnt, sy’n edrych dros draeth tywod bychan, diarffordd, yn
eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Oherwydd natur y dirwedd,
nid yw Mwnt yn lle hawdd ei gyrraedd. Does dim modd osgoi’r
llethr hir a serth a’r grisiau sy’n arwain i’r traeth. Mae
yma faes parcio mawr, ciosg sy’n gwerthu lluniaeth a thoiledau. Heblaw
am bleserau’r traeth, gallwch fynd am nifer o deithiau
cerdded byr ar hyd pen y graig. Oherwydd ei stôr o hanes, sy’n
cynnwys eglwys sy’n dyddio o’r bymthegfed ganrif, mae Mwnt,
heb unrhyw amheuaeth, yn lle arbennig iawn. Adlewyrchir hyn yn ei
statws Arfordir Gwyrdd (Green Coast). Golyga
hyn bod yr ardal yn cael ei chydnabod am safon y dŵr heb yr angen
am ddatblygu amhriodol fyddai’n difetha harddwch naturiol y
lle ac yn niweidio’r bywyd gwyllt. .
Traeth Poppit
Poppit, heb
amheuaeth, yw un o draethau mwyaf poblogaidd yr ardal. Mae’n
llain fendigedig o dywod gyda thwyni tywod yn gefn iddi. Mae’r
ymwelwyr niferus sy’n dod yma yn dwli ar y lle, a hynny am bob math
o resymau. Er gwaethaf ei boblogrwydd, nid yw traeth Poppit fyth
yn ymddangos yn orlawn. Ar un ochr i’r traeth ceir gwaharddiad
rhannol ar fynd â chŵn ar y traeth. Mae’r
caffi’n brysur ar bob adeg, a hyd yn oed ar ddiwrnodau oer a
thywyll y gaeaf mae’r lle yn aml ar agor. Drws nesaf
i brif orsaf y Bad Achub, fe welwch siop fach hynod ddiddorol
sy’n eiddo i’r RNLI.
Mae llanwau a cherhyntau anrhagweladwy Poppit yn gallu troi’r hyn sy’n ymddangos yn ddim mwy nag ardal arfordirol syml yn lle peryglus iawn ar adegau. Yn ffodus, ceir yma gyfleusterau Achubwyr Bywyd ardderchog; mae baneri rhybuddio’n hofran a gallwch ofyn am gyngor os bydd angen. Mae traeth Poppit yn falch o’i Faner Las.
Bae a Thraeth Ceibwr
Mae
Ceibwr yn enwog am ei harddwch digyffwrdd. Cildraeth creigiog diarffordd
sydd yma ac mae’n lle cwbl gyfareddol. Traeth bychan iawn
o garegos a chreigiau yw Ceibwr a bydd yn cael ei orchuddio’n gyfan
gwbl pan fydd y llanw i mewn. Nid yw’n lle da i nofio ond dod
yma i weld yr ogofâu a ffurfiant y graig ac i brofi’r
llonyddwch y bydd pobl. Mae Morloi Llwyd i’w gweld yma’n
aml wrth ymyl y lan ac mae adar yr arfordir yn heidio yma yn
eu cannoedd. Rhaid gyrru’n ofalus ar hyd y ffyrdd sy’n
arwain i’r traeth. Does dim cyfleusterau i’w cael yma. Mae
nifer y lleoedd parcio wrth ymyl y ffordd yn gyfyngedig.
Traeth Tywod Trefdraeth
Traeth
gwastad, tywodlyd gyda thwyni o’i ôl. Mae’n hawdd
cyrraedd yma. Mae’r maes parcio yn eithaf helaeth ac
yn ystod yr haf mae yma giosg sy’n gwerthu lluniaeth. Caniateir
cŵn ar y traeth, felly os byddwch chi’n dod â’ch ‘ffrind
gorau’, cofiwch fod yn ystyriol o eraill, os gwelwch yn dda
drwy wneud yr hyn sy’n angenrheidiol! Mae’r traeth
yn lle diogel i nofio ac ar gyfer chwaraeon dŵr ac mae Achubwr Bywyd
ar ddyletswydd rhwng 10 o’r gloch y bore a 6 yr hwyr yn ystod misoedd
Gorffennaf ac Awst. Er bod y traeth hwn, heb unrhyw amheuaeth,
yn lle poblogaidd, nid yw’r lle byth braidd yn mynd yn anghyfforddus
o lawn.
Traeth Parrog, Trefdraeth (yngenir ‘Tydrath’)
Aber
Afon Nyfer yw’r hyn sy’n gwahanu traeth Parrog, Trefdraeth
oddi wrth Draeth Tywod Trefdraeth. Mae’r Aber
ei hun yn gyrchfan poblogaidd i adar y môr a rhydwyr. Cadwch
eich llygaid ar agor am Grehyrod wrth y Bont Haearn. Mae Caffi/Bwyty
rhagorol - ‘Morawelon’ wrth ymyl traeth Parrog. Mae i’r
ardal hanes cyfoethog o adeiladu llongau ac mae ceisio darganfod
tystiolaeth o orffennol y lle yn gallu bod yn weithgaredd difyr iawn. Dyma
le ardderchog i fynd am dro ar hyd yr arfordir, gyda neu heb y ci. Nid
yw’r traeth yma mewn gwirionedd yn addas ar gyfer nofio
oherwydd nad oes modd rhagweld y cerhyntau. Ceir toiledau
a lle parcio digonol ar Draeth Parrog.
Gwybodaeth Bellach am draethau yn ardal Aberteifi
- Diogelwch
- Gwobrau
Amserlenni Llanw Aberteifi 33 munud ynghyn
Amserlenni Llanw Aberteifi Ceredigion
Cliciwch yma am fanylion am wylio adar o gwmpas Aberteifi
Mae Llwybr y Teifi yn ffordd ardderchog i ddarganfod bywyd gwyllt Aberteifi
Cliciwch yma am fanylion am deithiau cerdded o amgylch Aberteifi
Menter Aberteifi