Rhannu + English

Dewch i ymweld ag Aberteifi a Bae Hyfryd Ceredigion

Coastal walks and Beaches on Cardigan BayCycling - crossing a Teifi tributarySea kayak from the beaches around Cardigan

 



Cerdded yn ardal Aberteifi

Erbyn hyn, gall cerddwyr fwynhau cyfres o deithiau cerdded cylchol gafodd eu datblygu’n ddiweddar yn ardal Aberteifi. Mae’r teithiau hyn yn amrywio o bedair milltir a hanner hyd chwe milltir a hanner o hyd ac yn arwain drwy nifer o lecynnau prydferth yn Nyffryn Teifi a’r arfordir.

Walks in Cardigan Bay

Os hoffech fanylion am deithiau cerdded cylchol newydd cyffrous yn ardal Aberteifi. cliciwch yma

Mae ardal dangnefeddus Aberteifi, gyda’i hamrywiaeth o dirweddau arfordirol, bryniog, coediog a gwledig, yn cynnig dewis o deithiau cerdded amrywiol.  Gallwch ddewis mynd am dro bach hamddenol ar hyd lonydd tawel cefn gwlad neu fynd ar deithiau cerdded hir dros lwybrau gwyllt ar ben clogwyni.

Mae tref Aberteifi ei hun wedi’i lleoli nid nepell o ben gogleddol Llwybr Arfordir Sir Benfro a phen deheuol Llwybr Arfordir Ceredigion, sydd ar hyn o bryd yn cael ei gwblhau. Saif y dref ar lan Afon Teifi ac mae’r teithiau cerdded yn ymestyn o’r dref, tua’r môr hyd at yr aber, a thua’r tir i mewn i ddyffryn coediog yr afon.  Ychydig filltiroedd i’r de o’r dref mae Mynyddoedd y Preselau, gyda’u golygfeydd eang o rostir agored.

Llandudoch (St Dogmaels) ar lannau deheuol Afon Teifi, rhyw filltir o Aberteifi, yw man cychwyn Llwybr Arfordir Sir Benfro.  I gyfeiriad Traeth Poppit, mae’r llwybr yn dringo uwchlaw traethellau a morfa heli aber Afon Teifi sy’n gartref i amrywiaeth helaeth o adar.

Os hoffech fwy o fanylion am Wylio Adar, cliciwch yma

Yn Nhraeth Poppit, mae’r llwybr yn dringo tuag at Benrhyn Cemaes ac yno cewch olygfeydd ysblennydd i gyfeiriad y gogledd ar draws Bae Ceredigion ac i’r de ar hyd arfordir Sir Benfro.  Wrth fynd tua’r de i Drefdraeth, mae’r llwybr yn dilyn yn agos at ymyl clogwyni tolciog lle mae haenau (strata) gwyrdroëdig ysgubol i’w gweld.

Os hoffech fwy o fanylion am Ddaeareg a Thirwedd, cliciwch yma

Ar hyd yr arfordir tua’r gogledd ceir cyfres o draethau bychain.  Traeth bychan, diarffordd yw Mwnt - safle sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a lle da i wylio dolffiniaid.  Mae pentrefi Aberporth, Tresaith a Llangrannog yn gartref i gymunedau bychain o bobl.

Os hoffech fwy o fanylion am Ddolffiniaid a Llamhidyddion, cliciwch yma

Wrth ymyl Afon Teifi, i’r de o’r dref, mae cartref Canolfan Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru a llwybr troed yn cysylltu’r ddau fan.  Ardal eang o welyau cors yw’r parc ac yma ceir nifer o guddfannau lle gallwch wylio amrywiaeth helaeth o adar a mamaliaid.  Mae’r afon yn gartref i ddyfrgwn a phan fydd y llanw’n isel daw llwynogod i’r fflatiau llaid weithiau i chwilio am sborion.  Yn y berfeddwlad y tu hwnt i’r parc, mae’r afon yn llifo i geunant coediog, cul a gallwch ddilyn y llwybr troed sy’n arwain ar hyd y ceunant bron yr holl ffordd i bentref Cilgerran.  Yn y pentref, uwchlaw’r ceunant, gwelir olion castell rhyfeddol sy’n dyddio o’r 12fed ganrif.  Mae’r pentrefwyr yn dal i ddefnyddio cwryglau i bysgota am eogiaid yn yr afon.  Mae’r llwybr yn ymestyn ar hyd glan yr afon o Gilgerran hyd at yr hen bont yn Llechryd lle gwelwch y ceunant yn ymagor yn orlifdir llydan.

Os hoffech fwy o fanylion am lwybr Afon Teifi, cliciwch yma

Tua 10 milltir i’r de o Aberteifi mae Mynyddoedd y Preselau – cadwyn helaeth o rostir agored yn cyrraedd uchder o dros 500m – sy’n enwog fel safle gwreiddiol y cerrig a ddefnyddiwyd i godi Côr y Cewri (Stonehenge).  Mae rhwydwaith o lwybrau traed yn croesi’r bryniau hyn.

Mae Aberteifi a’r ardal gyfan yn blethwaith o lonydd dwfn, caeedig sy’n gyforiog o flodau gwyllt gyda rhwydwaith o lwybrau traed yn eu cysylltu.  Fel y tystia nifer o feini hirion Neolithig (2500-1400 CC) sydd i’w gweld ar draws gogledd Sir Benfro, y cestyll Normanaidd diweddar yn Aberteifi a Chilgerran a’r abaty yn Llandudoch, mae i’r ardal hanes cyfoethog.  Yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif, adeiladwyd nifer fawr o blastai yn rhan isaf dyffryn Teifi gan dirfeddianwyr cyfoethog, ac mae pobl yn dal i fyw mewn sawl un o’r rhain ond prin yw’r rhai a gadwodd eu statws gwreiddiol.

Teithiwch yn wyrdd ar fws y Cardi Bach haf eleni gan ymweld lleoedd ar hyd yr arfordir rhwng Aberteifi a Threfdraeth

Cliciwch yma am PDF o lwybr teithio bws y Cardi Bach

neu ewch i www.richardsbros.co.uk i gael gweld dewis o wasanaethau bws